Awgrymiadau
Pecyn Swyddi >> Ar ôl y cyfweliad
Peidiwch â bod yn rhy feirniadol ar ôl y cyfweliad. Canolbwyntiwch ar yr hyn a fu’n llwyddiannus, eich atebion da i’r cwestiynau a’r argraff gadarnhaol gyffredinol rydych wedi’i chreu. Yna ystyriwch y cyfweliad o safbwynt y person arall a gofynnwch y cwestiynau canlynol i’ch hunan:
- Beth gallwn i fod wedi’i wneud yn wahanol neu’n well?
- A oeddwn i’n teimlo mod i wedi paratoi digon?
- Pa gwestiynau atebais yn dda?
- Ydy’r cwmni’n un yr hoffwn i weithio iddo?
- A lwyddais i werthu fy hun?
Camau dilynol
Gobeithio eich bod wedi cofio gofyn pryd caiff unrhyw benderfyniadau eu gwneud. Os yw’r dyddiad yn mynd heibio, ffoniwch i ddangos bod gennych ddiddordeb o hyd. Hyd yn oed os na chewch y swydd, gallwch ddysgu o’r profiad a’i ddefnyddio i wella’ch perfformiad yn y dyfodol.
Os na fyddwch yn llwyddiannus, gofynnwch am adborth gan fydd hyn yn eich helpu yn eich cyfweliad nesaf. Dyma rai rhesymau pam nad yw ceisiadau’n llwyddiannus ar y cam hwn:
- Golwg amhriodol
- Cyrraedd yn hwyr
- Ymddangos yn anhrefnus
- Sgiliau cyfathrebu gwael
- Diffyg dealltwriaeth o’r sefydliad neu’r swydd (h.y. heb wneud eich gwaith cartref!)
- Diffyg egni neu frwdfrydedd
- Tuedd i hel esgusodion a rhoi bai ar eraill
- Creu’r argraff eich bod yn ymddiddori yn yr hyn gall y sefydliad ei gynnig i chi yn unig.
- Agwedd wawdlyd, ymosodol neu anghwrtais
- Diffyg hyder
- Geirda gwael
“Cofiwch fod mwy o ymgeiswyr na swyddi, felly dylech longyfarch eich hun ar gyrraedd mor bell. Daliwch ati. Efallai mai’r cyfweliad nesaf fydd yr un sy’n cael y swydd i chi.”