Gweithio drwy COVID
Gwasanaeth gyda gwên!
Yn eich cefnogi chi drwy apiau rhannu, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb
Mae pob un ohonom yn ymwybodol o effaith COVID-19 ar ein bywydau pob dydd. Cydnabu Gweithffyrdd + ar unwaith fod angen i ni addasu sut roeddem yn darparu ein gwasanaeth i bobl ddi-waith.
Dros nos aethom o fod yn wasanaeth wyneb yn wyneb i wasanaeth o bell a oedd yn darparu cyngor drwy apiau fel WhatsApp a Messenger ac roeddem hefyd yn cysylltu â phobl dros y ffôn. Addasodd ein tîm a’r bobl rydym yn eu cefnogi yn gyflym iawn ac roedd y trosglwyddiad o ran y ffordd roeddem yn cysylltu â phobl ddi-waith yn ddi-dor.
P’un a ydym yn cysylltu â phobl drwy ddefnyddio apiau, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, gallwn sicrhau’r gwasanaeth gorau posib i’r bobl rydym yn eu cefnogi.