Os ydych yn ddi-waith neu’n anweithgar yn economaidd a hoffech gael cefnogaeth er mwyn dod o hyd i swydd, profiad gwaith, hyfforddiant neu gyfle gwirfoddoli, cysylltwch â’ch swyddfa leol nawr.

Cyflogaeth

Dewch o hyd i gyflogaeth gyda chefnogaeth un i un gan fentor cyflogaeth gofalgar. Mae gan Gweithffyrdd+ dîm o bobl sy’n gweithio’n agos gyda chwmnïau lleol a gallent roi eich enw ymlaen ar gyfer swyddi cyn iddynt gael eu hysbysebu.

Hyfforddiant

Cerdyn adeiladu’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu, technegydd ewinedd acrylig, trwydded yrru wagen fforch godi, diogelwch, hylendid bwyd a llawer mwy – a’r cyfan wedi’i ariannu’n llawn! (Cymhwysedd yn berthnasol)

Profiad Gwaith

Dewch i gael profiad gwaith i ddatblygu’ch sgiliau a gwella’ch CV. Efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu talu’ch cyflog wrth i chi ddatblygu!

Gwirfoddoli

Cwrdd â phobl newydd, helpu’r rheini sydd mewn angen a chael profiad a fydd yn creu argraff ar gyflogwyr y dyfodol.

Eich Gwasanaeth Lleol

Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth yn eich ardal chi.

Castell-Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Gweithffyrdd+

Eich llwybr i swydd wych