Gwirfoddoli

Beth am weld sut gallwch helpu’r gymuned ac ennill profiad?

Mae gwirfoddoli’n cynnig llawer o fuddion i chi ac eraill Gall gwirfoddoli wneud i chi deimlo’n fodlon, yn hapus a gall eich helpu i wneud ffrindiau newydd. mae hefyd yn ffordd o ddysgu sgiliau newydd ac mae’n ffordd heb bwysau o’ch cyflwyno i gyflogaeth Gall Gweithffyrdd+ eich helpu i ddod o hyd i’ch cyfle gwirfoddoli delfrydol. Helpu eraill a helpu’ch hun.

Gwnewch eleni’r flwyddyn y dechreuoch chi wirfoddol

Meddai gwirfoddolwr Gweithffyrdd+, Meishlang, “Dwi’n hapus iawn fy mod i’n gwirfoddoli gyda Gweithffyrdd+, maen nhw wedi fy helpu gymaint ar fy nhaith i ddychwelyd i’r byd gwaith. Mae cefnogi Gweithredu dros Blant yn Park House yn bwysig iawn i mi. Mae fy merch wedi elwa o wasanaeth tebyg a dwi’n gwybod faint o blant a phobl ifanc fydd yn elwa ohono.”

Er mwyn cael profiad gwaith i Sarah yn y sector gofal, trefnodd Gweithffyrdd iddi gael cyfweliad anffurfiol er mwyn gwirfoddol yng Nghartref Gofal Maes y Bryn Care Home, ym Mhort Talbot. Darparodd Gweithffyrdd+ y cyllid i brynu dillad cyfweliad i Sarah. Yna talodd Gweithffyrdd+ am wiriad GDG i Sarah, gofyniad statudol i weithio yn y sector gofal. Gwnaeth Sarah argraff dda yn y cyfweliad a chynigiwyd swydd iddi fel gweithiwr gofal.

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe