Awgrymiadau

Chwilio am waith?

Gall Gweithffyrdd+ gynnig amrywiaeth o gefnogaeth i’ch helpu i ennill swydd, gan gynnwys cefnogaeth un i un gan fentor, hyfforddiant a ariennir, datblygiad CV, eich cyflwyno i gyflogwyr, cyfleoedd gwaith â thâl a phrynu dillad gwaith.

I ddechrau, cysylltwch â’ch swyddfa Gweithffyrdd+ leol a chymerwch gip ar yr awgrymiadau defnyddiol hyn.

Gall Gweithffyrdd+ wneud y canlynol:

  • Eich helpu i oresgyn unrhyw rwystr i weithio
  • Sicrhau y gallwch gael mynediad at unrhyw gymorth perthnasol
  • Magu hyder
  • Nodi meysydd hyfforddiant
  • Help a chefnogaeth i’ch helpu i ennill swydd
  • Help i nodi’ch potensial

Trwy ddarparu'r canlynol:

  • Mentor personol a fydd yn nodi’ch sgiliau ac yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun gweithredu i ennill swydd
  • Cefnogaeth wrth chwilio am swydd
  • Help wrth lunio CV a chyflwyno ceisiadau am swyddi
  • Swyddi gwag lleol sy’n addas ar gyfer eich sgiliau – does dim ots os nad oes gennych lawer o gymwysterau neu brofiad
  • Mynediad at gyfleoedd hyfforddi perthnasol
  • Swydd dros dro â thâl gyda chyflogwr lleol i rai cyfranogwyr – mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer hyfforddiant, dillad a gofal plant

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe