Awgrymiadau

Pecyn Swyddi >> Ysgrifennu Llythyr

Mae ysgrifennu llythyr yn ffordd wych o gyfathrebu, o roi eich manylion i bobl a chynnwys yr holl bethau rydych am eu dweud. Os byddwch yn gwneud cais am gwrs, yn holi am swydd wag neu’n cynnig eich hun am swydd, dyma’ch cyfle i wneud argraff gyntaf wych.

Gallwch ysgrifennu gwahanol fathau o lythyr gan gynnwys:

Llythyr holi – defnyddir hyn i holi a oes cwrs neu swydd wag ar gael, ac os oes un, i ofyn am gael eich ystyried.

Llythyr cais – os oes cwrs neu swydd wag ar gael sydd o ddiddordeb i chi, defnyddir y math hwn o lythyr i gynnig eich hun am y broses ddethol.

Llythyr eglurhaol – pan fyddwch yn anfon ffurflen gais, mae llythyr byr ychwanegol yn ffordd dda o gyflwyno eich hun ac mae’n creu argraff dda ar gyflogwyr.

Rhestr Wirio Hanfodol:

Pa bynnag ddull rydych yn ei ddewis, defnyddiwch y rhestr wirio ganlynol bob tro er mwyn sicrhau eich bod yn cyrraedd y nod.

  • Meddyliwch am yr hyn rydych am ei ddweud a sicrhau bod y swydd/cwrs/sefydliad yn addas i chi
  • Ffoniwch ymlaen llaw i gael enw i gyfeirio’ch llythyr ato
  • Lluniwch gopi drafft a’i ddarllen yn ofalus
  • Cadwch eich llythyr yn glir, yn berthnasol ac yn hawdd ei ddarllen.
  • Rhowch eich manylion cyswllt llawn a chofiwch roi dyddiad ar y llythyr
  • Dylai tri pharagraff byr fod yn ddigon a dylent gynnwys y canlynol:
  • pam rydych yn ysgrifennu
  • amlinelliad byr o’ch profiad perthnasol (cyfeiriwch at eich CV os byddwch yn amgáu un)
  • dywedwch eich bod ar gael i gwrdd a thrafod eich cais ymhellach
  • Os byddwch yn teipio’r llythyr, cofiwch ei lofnodi i’w wneud yn bersonol.
  • Cofiwch fod rhaid i’r amlen fodloni’r un safonau uchel. Wedi’r cwbl, mae angen i chi greu argraff gyntaf dda.

Llythyrau holi

Mae 2 o bob 10 swyddyn cael eu llenwi o ganlyniad i holi am swyddi

Gallwch ofyn am wybodaeth, arweiniad ar y cam nesaf yn eich gyrfa neu holi a oes swyddi gwag ar gael ar hyn o bryd neu’n fuan. Beth bynnag fo’ch rheswm am ysgrifennu, gallwch sicrhau bod eich llythyr yn creu argraff dda drwy wneud ymchwil a chyfeirio ati yn eich llythyr.

Astudiwch yr hyn mae’r sefydliad yn ei gynnig, ei gwricwlwm o gyrsiau, ei adroddiad cwmni neu chwiliwch am erthyglau amdano yn y wasg leol a nodi meysydd swyddi gwag penodol yn hytrach na dweud ‘unrhyw’ swyddi gwag. Bydd eich llythyr yn fwy diddorol os gallwch nodi sut mae’ch rhinweddau’n diwallu eu hanghenion nhw.

Os oes gennych sgiliau gwaith tîm gwych ac rydych yn gwybod bod y sefydliad yn dibynnu ar hyn am ei lwyddiant, cofiwch bwysleisio hyn. Os yw’r rôl yn gofyn am gywirdeb a sylw i fanylion, eglurwch ble rydych wedi gwneud hyn.

Llythyrau Cais

Mae’n haws ysgrifennu’r math hwn o lythyr am eich bod yn gwybod yn union beth rydych yn ceisio amdano a gallwch ddefnyddio’r manylion ar eich CV i sicrhau bod eich rhinweddau a’ch cryfderau unigryw’n diwallu eu hanghenion. I sicrhau bod eich llythyr yn eich helpu i gael cyfweliad, gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwneud y canlynol:

  • Nodi ble gwelsoch y cyfle, h.y. coleg, papur, canolfan waith, gwefan
  • Amlinellu’ch sgiliau a’ch cryfderau’n glir a nodi sut mae’r rhain yn cydweddu â’r swydd
  • Nodi’ch pwyntiau unigryw megis hyblygrwydd, bodlonrwydd hyfforddi
  • Cynnwys unrhyw wybodaeth arall y gofynnwyd amdani megis copi o’ch CV
  • Cynnig eich hun am gyfweliad

Llythyrau eglurhaol

Os gofynnwyd i chi anfon ffurflen gais neu gopi o’ch CV, mae llythyr eglurhaol yn ffordd gwrtais o’i gyflwyno. Y gyfrinach o lunio llythyr eglurhaol da yw ei gadw’n gryno a gadael i’r ffocws fod ar y ffurflen gais/CV. Os ydych wedi cwblhau adran ‘manylion personol’ ar ffurflen gais, dylai’r llythyr fod yn fyr er mwyn peidio ag ailadrodd hyn. Os byddwch yn anfon CV, bydd angen i’ch llythyr gynnwys mwy o fanylion er mwyn cynnig dehongliad personol o’r wybodaeth rydych wedi’i darparu.

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe