Awgrymiadau
Pecyn Swyddi >> Cyflwyno cais am swydd ar-lein
Os ydych yn cwblhau cais ar-lein, mae bob amser yn syniad da ei gadw mewn pecyn prosesu geiriau a fydd yn eich galluogi i weithio arno, gwirio’r sillafu, ei argraffu a’i ddarllen yn ofalus cyn cyflwyno’r un gwreiddiol.
Mae rhai ceisiadau electronig yn cael eu sganio’n awtomatig am feini prawf dethol allweddol. I helpu’ch cais i fynd drwy’r cam cychwynnol hwn, rhaid i chi sicrhau eich bod yn defnyddio’r geiriau priodol o’r disgrifiad swydd. Er enghraifft, os yw’n dweud bod sgiliau cyfathrebu ardderchog yn hanfodol, gwnewch yn siŵr bod eich cais yn cynnwys y geiriau ‘sgiliau cyfathrebu’.
Nid yw rhai ceisiadau electronig yn caniatáu i chi gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a mynd yn ôl ato. Gall rhai eraill eich cau allan o’r system ar ôl cyfnod penodol.
Manteision
- Mae pob cais yn edrych yr un peth. Mae hyn yn golygu na fydd rhaid i’r cyflogwr edrych ar wahanol ffontiau, maint papur, cynlluniau etc.
- Mae ceisiadau’n cyrraedd mewn cyflwr perffaith bob amser. Ni fyddant yn cael eu gwasgu na’u crychu yn y post.
- Does dim rhaid i chi boeni am eich llawysgrifen.
- Fel arfer nid yw ceisiadau ar-lein yn caniatáu i chi adael llinellau gwag. Felly, mae’n anodd anghofio cynnwys gwybodaeth bwysig.
Anfanteision
- Mae angen mynediad i gyfrifiadur arnoch.
- Mae’n rhaid eich bod yn gallu defnyddio cyfrifiadur.
- Gall y gwiriwr sillafu eich gwneud yn ddiog neu gallwch anghofio gwirio’r sillafu’n llwyr.