Awgrymiadau
Pecyn Swyddi >> Penderfynu ar y swydd iawn
Beth sydd gennych i’w gynnig? Efallai fod gennych ddoniau cudd. Edrychwch arnoch chi eich hun drwy lygaid rhywun arall, a ydyn nhw’n gweld yr un person â chi pan fyddwch yn edrych yn y drych. Faint o sgiliau a rhinweddau sydd gennych y dylai pobl eraill wybod amdanynt?
Dychmygwch eich bod yn ceisio creu argraff dda, beth byddwch yn ei ddweud?
Dechreuwch drwy ofyn y cwestiynau hyn i chi’ch hun:
Ydw i’n? | Beth sydd gen i i’w gynnig? |
Amyneddgar | Hyder |
Ystyriol | Bodlonrwydd dysgu |
Dymunol | Dibynadwyedd a phrydlondeb |
Rhywun y gellir ymddiried ynddo | Menter |
Hyblyg | Brwdfrydedd |
Cadarnhaol | Synnwyr digrifwch |
Ffyddlon | Cymwysterau |
Dibynadwy | Profiad |
Gofalgar | Sensitifrwydd |
Ydw i’n? | Ydw i’n? |
Gwrando | Gweithio’n dda mewn tîm |
Cymell | Gweithredu ar fy menter fy hun |
Annog | Gweithio’n dda ar fy mhen fy hun |
Arwain pobl | Adeiladu neu’n dylunio |
Trefnu pobl a gweithgareddau | Dilyn cyfarwyddiadau’n gywir |
Rheoli | Cyfathrebu’n effeithiol |
Os nad ydych chi’n gwybod yr atebion, gofynnwch i’r bobl o’ch cwmpas am eu barn. Efallai cewch eich siomi ar yr ochr orau.
Ewch i’r wefan cyngor ar yrfaoedd, https://nationalcareersservice.direct.gov.uk i gael cyngor ac arweiniad ar nodi’ch sgiliau, eich rhinweddau a’ch cryfderau personol eich hun.