Awgrymiadau

Pecyn Swyddi >> Cwblhau ffurflen gais

Y dyddiau hyn, bydd mwy a mwy o sefydliadau’n gofyn i chi gwblhau a dychwelyd eu ffurflenni cais eu hunain yn hytrach nag anfon eich CV yn unig. Y rheswm am hyn yw bod yr wybodaeth am brofiad, diddordebau etc yn yr un lle ar gyfer pob ymgeisydd ar bob ffurflen, ac mae hyn yn ei gwneud yn haws penderfynu pwy i wahodd am gyfweliad wrth edrych drwy geisiadau am swydd wag.

Mae hyn yn golygu bod yr hyn sy’n cael ei ysgrifennu a sut yn bwysig iawn i sicrhau bod eich cais yn cael sylw ychwanegol a’i fod yn creu argraff dda.

Cyn i chi ddechrau

Mae paratoi’n briodol yn osgoi perfformiad gwael. Ar ôl derbyn y ffurflen gais, gwiriwch y dyddiad pan fydd rhaid i chi ei dychwelyd. Gallwch wneud camgymeriadau os byddwch yn ei gadael tan y funud olaf a gallech golli’r dyddiad cau hyd yn oed.

  • Darllenwch y cyfarwyddiadau’n ofalus.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall yr holl gwestiynau. Os nad ydych yn sicr, gofynnwch i rywun eich helpu.
  • Ysgrifennwch eich atebion ar lungopi o’r ffurflen. Bydd hyn yn osgoi cywiriadau ac yn caniatáu i chi newid eich meddwl, yn enwedig os penderfynwch newid rhywbeth.
  • Ar ôl i chi gwblhau copi, gofynnwch i rywun ei ddarllen gyda chi i sicrhau eich bod wedi cynnwys yr holl feysydd pwysig.
  • Wrth i chi wneud y paratoadau uchod, sicrhewch eich bod yn cadw’r ffurflen wreiddiol yn lân mewn man diogel yn barod i chi ei llenwi.

Cwblhau’r ffurflen

Ewch i fan lle na fydd neb yn torri ar eich traws a gallwch ganolbwyntio. Darllenwch y cyfarwyddiadau eto a chymryd eich amser, mae safon yn bwysig. Gyda’ch CV wrth law:

  • Defnyddiwch inc neu feiro du. Bydd hyn yn helpu’r cyflogwr os bydd am lungopïo’ch ffurflen a gallwch chi wneud copi ar ôl i chi orffen.
  • Ysgrifennwch yn daclus, gan sicrhau ei bod yn hwylus ei darllen a bod popeth wedi’i sillafu’n gywir.
  • Cwblhewch un adran ar y tro.
  • Cadwch eich atebion yn fyr ac yn berthnasol.
  • Os bydd angen mwy o le arnoch, defnyddiwch ddarn arall o bapur a’i atodi i’ch ffurflen. Peidiwch â cheisio gwasgu popeth ar y ffurflen ei hun. Bydd yn edrych yn anniben a gall greu argraff wael.
  • Os byddwch yn defnyddio papur ychwanegol, cofiwch gynnwys eich enw a chyfeirnod y swydd rhag ofn y caiff ei wahanu o’r ffurflen gais.
  • Atebwch yr holl gwestiynau sy’n berthnasol i chi. Rhowch ‘Ddim yn berthnasol’ os nad ydynt.
  • Gwerthwch eich hun. Cofiwch bwysleisio’ch holl sgiliau, eich profiad, eich rhinweddau a’ch cyflawniadau.

Cofiwch – gall profiad a sgiliau a gafwyd y tu allan i’r gwaith fod yn bwysig iawn i’r swyddrydych yn ceisio amdani hefyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn sôn amdanynt. Cofiwch wneud copi drafft yn gyntaf a’i ddarllen yn drylwyr.”

Ar ôl i chi orffen

Dyma’r adeg i sicrhau eich bod wedi gwneud eich gorau i werthu eich hun i’r cyflogwr gan roi’r cyfle gorau i chi am gael cyfweliad.

  • Darllenwch eich atebion yn ofalus, gan sicrhau bod yr holl ddyddiadau’n gywir.
  • Gwnewch yn siŵr ei bod yn amlwg pa swydd rydych yn ceisio amdani.
  • Cadwch gopi i fynd ag ef i’r cyfweliad os byddwch yn llwyddo i gael un.
  • Ysgrifennwch lythyr eglurhaol byr i’w anfon gyda’r ffurflen gais. Cofiwch gynnwys cyfeirnod y swydd os oes un.
  • Defnyddiwch amlen fawr; peidiwch â gwasgu’r ffurflen i mewn i  amlen fach.
  • Anfonwch y ffurflen i gyrraedd y cyflogwr mewn da bryd.

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe