Tîm Rhanbarthol
Helpu pobl ddi-waith i wella eu bywydau
Gweithffyrdd+
Gyda chefnogaeth gwerth £17.3 miliwn o gyllid yr UE, mae Gweithffyrdd+ yn helpu pobl sy’n ddi-waith ac yn anweithgar yn economaidd yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion i wella eu bywydau trwy gymorth cyflogaeth.
Mae Gweithffyrdd+ yn cynnig mentora un i un, cefnogaeth i chwilio am swyddi a sgiliau cyfweliad, a’r cyfle i ennill cymwysterau newydd. Mae cefnogaeth yn cynnwys unigolion y mae ganddynt gyflyrau iechyd ac anableddau sy’n cyfyngu ar eu gallu i weithio, yn ogystal â phobl â chyfrifoldebau gofal a phobl heb lawer o sgiliau neu heb unrhyw sgiliau o gwbl.
Mae’r Tîm Rhanbarthol yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r gwasanaeth ar draws pob un o’r pum ardal awdurdod lleol.
Cwrdd â’r Tîm
Oonagh Gavigan
Rheolwr Prosiect Rhanbarthol
Laura Jayne Wilkinson
Swyddog Cyllid Rhanbarthol
Louise Johnson
Swyddog Cymorth Systemau
Louise McAndrew
Swyddog Perfformiad ac Ansawdd Rhanbarthol
Ian Jones
Swyddog Marchnata Rhanbarthol
Beth allwn ni ei wneud i chi
Sut i ddod o hyd i swydd
- Cefnogaeth 1-1 gan fentor cyflogaeth.
- Help i hybu'ch hyder.
- Canolbwyntio ar y math mwyaf addas o swydd.
- Helpu i ymarfer technegau cyfweld.
- Help gyda dod o hyd i swydd.
- Help i gwblhau ceisiadau am swyddi.
Mynediad at gyflogwyr
- Mae gan Gweithffyrdd+ rwydwaith o gyflogwyr sy'n recriwtio drwy ddefnyddio gwasanaeth Gweithffyrdd+.
- Gall Gweithffyrdd+ roi eich enw ymlaen ar gyfer swyddi gwag.
Hyfforddiant a ariennir, ar-lein ac wyneb yn wyneb
- Popeth o dechnegydd ewinedd i weithredwr wagen fforch godi!
- Cymwysterau a thystysgrifau gan gynnwys cerdyn CSCS.
- Wedi'i ariannu'n llawn, does dim angen i'r cyfranogwr dalu ceiniog.
- Telir am dreuliau teithio.
Profiad Gwaith
- Profiadau gwaith i ddatblygu sgiliau.
- Gwella'ch CV
- Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad gwaith
- Cwrdd â phobl newydd.
Gwirfoddoli
- Helpu eraill a helpu'ch hun
- Datblygu sgiliau
- Gwneud ffrindiau newydd
- Creu argraff ar gyflogwyr y dyfodol.
Cysylltwch â’r Tîm Rhanbarthol Gweithfyrdd+
Gorsaf Waith
Stryd y Dŵr
Port Talbot
Castell-Nedd Port Talbot
SA12 6LF
Ffôn: 01639 684250
E-bost: workways@npt.gov.uk