Profiad Gwaith

Gweld sut y gall profiad gwaith eich helpu chi

Un o’r ffyrdd gorau o ddod o hyd i swydd yw drwy gael profiad gwaith i’w roi ar eich CV. Gall profiad gwaith helpu i adeiladu sgiliau allweddol a phrofi i gyflogwyr fod gennych y sgiliau a’r gallu y mae eu hangen i gyflawni swydd. Mae’n profi bod gennych yr agwedd gywir at waith a bod gennych yr hunanddisgyblaeth i gael eich hun i’r gwaith ar amser a chwblhau diwrnod llawn o waith. Pwerus iawn! Gall Gweithffyrdd+ fynd gam ymhellach drwy gynnig profiad gwaith â thâl. Profiad gwaith â thâl yw pan fydd Gweithffyrdd+ yn talu am gyflog fel bod y person rydym yn ei gefnogi’n cael holl fuddion profiad gwaith a chyflog a does dim rhaid i’r cyflogwr dalu am unrhyw beth. Mae llawer o’r bobl rydym wedi’u cefnogi drwy waith â thâl bellach wedi’u cyflogi’n amser llawn. Ar gyfer pobl sy’n chwilio am swydd, mae hwn yn gyfle heb unrhyw beth i’w golli!

Ewch ati eleni i fanteisio ar gyfle profiad gwaith gwych.

Roedd Rob Driscoll (trydydd o’r dde), gŵr 48 oed, heb lawer o sgiliau ac a fu’n ddi-waith am gyfnod hir, o’r farn bod ei siawns o ddod o hyd i swydd y gallai ei mwynhau yn gyfyngedig iawn.

Talodd Gweithffyrdd+ am gyfle gwaith â thâl iddo gyda chwmni adeiladu yn Sir Benfro, Miles Plant Hire.Mae’r cyfleoedd gwaith â thâl yn rhedeg dros sawl wythnos ac maent yn galluogi i fusnesau gyflogi a darparu profiad i bobl, heb fod yn rhaid iddynt dalu unrhyw gostau. Dechreuodd Rob weithio gyda Miles Plant ac roedd wrth ei fodd yno. Daeth cyfnod gwaith â thâl 16 wythnos Rob i ben ar 21 Ebrill ac roedd Miles Plant Hire yn falch o gynnig swydd amser llawn i Rob o’r diwrnod hwnnw ymlaen.

Bu’n rhaid i Hannah Howells, cyn-weithiwr y sector gofal (ar y dde gyda Carol o Gweithffyrdd+), roi’r gorau i’w swydd ar ôl cyfnod hir o salwch gwanychol. Dechreuodd Hannah ‘gyfle gwaith â thâl’ Gweithffyrdd+ fel Gweithiwr Ieuenctid yng Nghlwb Ieuenctid Canolfan Maerdy, Tai’r-gwaith. Gyda’i phrofiad o fagu pedwar o blant, roedd gan Hannah lawer i’w gynnig o fewn y rôl hon ac roedd hi’n mwynhau cael y cyfle i wneud rhywbeth y gallai fod yn frwd drosto.

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe