Nathan Evans

Roedd Nathan Evans, 35 oed, yn gweithio yn y maes cynhyrchu a llafurio ac roedd yn mwynhau’r ddwy swydd. Roedd bywyd yn mynd yn ei flaen yn iawn nes i Nathan gael damwain ddifrifol ar ei feic mynydd. O ganlyniad i’r ddamwain, cafodd anaf sylweddol i’w benelin a bu angen iddo gael llawdriniaeth. Araf oedd y broses wella a daeth yn amlwg na fyddai’r anaf yn caniatáu iddo ymdopi â galwadau corfforol ei swyddi blaenorol. Dechreuodd Nathan gyfnod o ddiweithdra a barhaodd am 5 mlynedd Niweidiwyd ei hyder gan y profiad llawn straen hwn a’i adael yn teimlo’n isel ei ysbryd.

Cafodd Nathan ei gyfeirio gan ei hyfforddwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith i Gweithffyrdd+, y gwasanaeth sy’n ymroddedig i helpu pobl i wella’u bywydau drwy gyflogaeth, hyfforddiant a gwirfoddoli. Neilltuwyd mentor i Nathan gan Gweithffyrdd+ o’r enw Angela Law i’w helpu i ddatblygu’i sgiliau a magu hyder i’w helpu i symud i gyflogaeth. Neilltuwyd Swyddog Cyswllt Cyflogaeth iddo hefyd, sef Alyson Davies, i nodi cyfleoedd swyddi ar ei gyfer a’i gyflwyno i gyflogwyr posib.

Dechreuodd Angela weithio gyda Nathan a’i helpu i fagu hyder, datblygu ei CV, canolbwyntio ar ba fath o waith yr hoffai gael ac y byddai’n gallu’i wneud, chwilio am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau swydd. Ym mis Medi 2019, trefnodd Angela ac Alyson yr arian i dalu am ‘Gyfle Gwaith â Thâl’ i Nathan gyda chwmni lleol, AWE Aluminium. Mae Cyfle Gwaith â Thâl yn wasanaeth y gall Gweithffyrdd+ ei gynnig lle maent yn talu cyflog gweithiwr am hyd at 12 wythnos. Y ffordd hon, gall y gweithiwr a’r cyflogwr farnu a oes ganddynt ddyfodol gyda’i gilydd, a hynny heb gost i’r cyflogwr. Dechreuodd Nathan y Cyfle Gwaith â Thâl a chreodd argraff ar y rheolwyr ar unwaith. Ym mis Tachwedd 2019, nodwyd y byddai trwydded wagen fforch godi’n fuddiol i Nathan a’i gyflogwr. Daeth Gweithffyrdd+ o hyd i gwrs addas a thalodd yr holl gostau. Llwyddodd Nathan yn ei gwrs ‘wagen fforch godi gwrthbwysedd’ gan gryfhau ei sgiliau a’i gymwysterau ymhellach a chynyddu ei allu i gyflawni tasgau yn AWE Aluminium. I gydnabod ei waith caled a’i allu, ym mis Rhagfyr 2019 cynigiodd AWE Aluminium swydd i Nathan fel Cynorthwy-ydd Gwneuthurwr. O fewn 10 mis, roedd wedi cael dyrchafiad i fod yn Arweinydd Tîm – cyflawniad aruthrol.

Meddai Nathan “Mae Gweithffyrdd+ wedi fy helpu mewn sawl ffordd. Roedd fy mentor Angela Law yn wych a gwnaeth i mi deimlo’n gyfforddus yn siarad amdanaf fi fy hun a fy niffyg profiad. Cefais gymorth i lunio CV a chyda thechnegau cyfweliad, cefais drwydded wagen fforch godi a daethon nhw o

hyd i leoliad gwaith i fi a’m helpu i fagu hyder, a’r cyfan o fewn wythnosau. Er bod y syniad o brofiad gwaith yn frawychus, doedd e ddim byd tebyg i’r hyn roeddwn yn ei ddisgwyl. Cefais fy rhoi mewn amgylchedd nad oedd gen i unrhyw brofiad ohono, lle nad oeddwn yn adnabod neb, ond o fewn fawr o dro, des i’n gymwys a ches fy nghroesawu fel aelod o dîm o bobl y byddwn yn eu hystyried yn awr yn ffrindiau.

Mae Gweithffyrdd+ yn sefydliad eithriadol sydd wedi cyfrannu’n fawr at sicrhau fy mod bellach yn weithiwr hyderus. Diolch i Gweithffyrdd+, ar ôl 12 mis, mae gen i swydd o hyd yn AWE.

Byddwn yn argymell Gweithffyrdd+ i unrhyw un sy’n chwilio am gymorth i fynd yn ôl i’r gwaith. Mae ganddynt bobl broffesiynol a chyfeillgar iawn a aeth ati i ddiwallu fy anghenion penodol wrth i fi geisio dod o hyd i waith. Hebddyn nhw, fyddwn i byth wedi llwyddo i gael y swydd hon rwy’n dwlu arni. Alla’i ddim mynegi pa mor ryfeddol y maen nhw wedi bod.”

Meddai Wayne Evans, Rheolwr AWE Aluminium, “mae Nathan wedi gweithio’n galed iawn ers iddo gael ei gyflwyno gan Gweithffyrdd+ ac mae e’ wedi ymgartrefu i’w rôl fel gwneuthurwr yn dda. O’r dechrau mae e wedi dangos ei fod yn weithgar ac yn gyfrifol – nodweddion sydd wedi’i helpu i ddod yn arweinydd tîm yn ei adran. Cynigiom y swydd iddo a neidiodd amdani gan greu effaith yn syth. Does dim amheuaeth gennym y bydd yn gwneud gwaith gwych ar ein cyfer.

Mae mentoriaid Gweithffyrdd+ yn helpu pobl i ddatblygu sgiliau a magu hyder. Mae Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth Gweithffyrdd+ yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr i’w helpu i recriwtio cyfranogwyr Gweithffyrdd+.

Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae Gweithffyrdd+ ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion.

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe