Roedd Steve Crouch, gŵr 44 oed sy’n byw yn Abertawe, ac a fu’n ddi-waith ers 10 mlynedd, yn meddwl na fyddai byth yn cael swydd. Roedd Steve yn dioddef o boen ac anystwythder difrifol oherwydd niwed niwrolegol. Roedd y cyflwr hwn wedi atal Steve rhag gweithio. Gyda chymorth gweithwyr iechyd proffesiynol, gwnaeth Steve gynnydd o ran rheoli ei broblemau â’i gefn. Roedd e’n ysu i ddychwelyd i waith adeiladu a gwnaeth y cam cyntaf cadarnhaol drwy gysylltu â swyddfa Gweithffyrdd Abertawe.
Mae Gweithffyrdd+ yn helpu pobl sy’n ddi-waith i gael swyddi. Mae gwasanaethau Gweithffyrdd+ yn cynnwys datblygu CVau, cyfweliadau ffug, help gyda cheisiadau am swyddi, chwilio am swyddi a mentora un i un. Mae gan Gweithffyrdd+ hefyd rwydwaith cynhwysfawr o weithwyr y maen nhw’n gweithio gyda nhw. Gall Gweithffyrdd+ baru’r bobl maen nhw’n eu cefnogi â’r cyflogwyr yn eu rhwydwaith. Mae Gweithffyrdd+ yn cynnig hyfforddiant hefyd. Mewn llawer o achosion, gallant ariannu cost y cyrsiau hyfforddiant, tystysgrifau a thrwyddedau.
Cafodd Tracy Bowen, mentor dynodedig Gweithffyrdd+, ei neilltuo i weithio gyda James ar sail un i un. Gweithiodd Tracy gyda Steve fel y gallai gael rôl yn ôl yn y diwydiant adeiladu. Y cam cyntaf oedd i Gweithffyrdd+ ariannu cost prawf diogelwch safle’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) a fyddai’n galluogi iddo weithio ar safle adeiladu. Sicrhawyd yr arian ar gyfer y cwrs a helpodd Tracy Steve i baratoi am y prawf. Er llawenydd i bawb, pasiodd Steve y tro cyntaf.
Ail ran y cynllun oedd trefnu hyfforddiant i Steve. Daeth Tracy o hyd i gwrs hyfforddiant gloywi ”Lori Ddadlwytho Blaen-arllwys’. Roedd Steve yn awyddus iawn a thalodd Gweithffyrdd+ am y cwrs a’r drwydded. I wneud y cwrs, byddai angen esgidiau diogelwch, het galed a dillad llachar ar Steve. Roedd Gweithffyrdd+ wedi archebu’r rhain a thalu amdanyn nhw. Unwaith eto roedd Steve yn llwyddiannus.
Trydydd cam y cynllun oedd cael swydd i Steve yn y maes adeiladu. Drwy eu tîm o Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth, chwilion nhw am gwmni adeiladu yn eu rhwydwaith, a thrwy weithio mewn partneriaeth â’r sefydliad Y Tu Hwnt i Frics a Morter yn Abertawe, daethpwyd o hyd i swydd wag gydag un o’r contractwyr a oedd yn gweithio ar safle datblygiad Arena newydd Abertawe. Pan ddaeth y swydd dros dro hon i ben, roedd Buckingham Group, y prif gontractwr ar gyfer
Arena Abertawe, wedi cysylltu â Steve gan fod ei waith wedi creu argraff arnyn nhw. Mae Gweithffyrdd+ yn gweithio’n agos gyda Buckingham Group ac mae wedi gosod sawl gweithiwr yno.