Breuddwyd Christie Powell, preswylydd a mam o Abertawe, oedd agor ei siop twtio cŵn ei hun. Diolch i benderfyniad Christie a chefnogaeth gan y gwasanaeth cyflogaeth Gweithffyrdd+, mae’r breuddwyd hwn bellach yn realiti.
Yn dilyn cyfnod o ddiweithdra roedd Christie’n teimlo’n rhwystredig ac ar goll, ac er bod ganddi brofiad ym maes gofal iechyd nid dyma’r sector yr oedd hi am ddychwelyd iddo. Ei phrif ddiddordeb oedd twtio cŵn ond heb unrhyw hyfforddiant, cymwysterau neu brofiad, nid oedd Christie’n meddwl bod hyn yn opsiwn, yn enwedig yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19.
Cysylltodd Christie â Gweithffyrdd+ i ddarganfod rhagor am y gefnogaeth a all fod ar gael iddi. Gwnaeth Gweithffyrdd+ ddarparu mentor iddi, Lynette, er mwyn gweithio un i un gyda hi mewn ffordd hamddenol heb unrhyw bwysau.
Darparodd Lynette amrywiaeth eang o gefnogaeth gyflogaeth gan gynnwys dod o hyd i gwrs twtio cŵn 15 wythnos, a oedd yn berffaith ar gyfer anghenion Christie, ac ariannwyd yr holl gostau’n llawn gan Gweithffyrdd+.
Nesaf, aeth Gweithffyrdd+ ati i ddod o hyd i leoliad gwaith cyflogedig gyda siop twtio cŵn i Christie er mwyn ei helpu i ennill cyflog a phrofiad. Yn anffodus, o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19, nid oedd modd dod o hyd i leoliad addas. Fodd bynnag, roedd Christie wedi gallu gwirfoddoli mewn siop twtio cŵn, a rhoddodd hwn brofiad gwaith iddi.
Gweithiodd Christie’n galed ar ei chwrs hyfforddi, llwyddodd i’w basio a dyfarnwyd cymhwyster twtio cŵn iddi. Darparodd Gweithffyrdd+ ‘gyfrifiad gwell’ i nodi sut y byddai gweithio’n effeithio ar ei budd-daliadau. Gyda’r wybodaeth hon a’r hyder y byddai’n gwell ei byd yn ariannol trwy weithio, aeth Christie a Gweithffyrdd+ ati i ddod o hyd i’r dewis gorau ar gyfer cyflogaeth. Gan gydbwyso ymrwymiadau gofal plant, cytunwyd mai hunangyflogaeth oedd y ffordd orau ymlaen. Mae Christie bellach wedi agor ei siop ei hun o’r enw ‘Boopers Dog Grooming Services’.
Meddai Christie, “Roedd Gweithffyrdd+ wedi fy annog i fynd ar ôl yr hyn roeddwn i am ei wneud. Mae’r gefnogaeth gan fy hyfforddwr, Lynette, wedi bod yn wych ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Roedd wedi gwneud i mi gredu fy mod i’n gallu ailhyfforddi a dilyn yr hyn roeddwn i’n ei fwynhau. Rwy’n meddwl eu bod nhw’n wych. Mae’r gefnogaeth un i un gwir wedi fy ngwthio i fynd ar ôl gyrfa twtio cŵn, ac mae wedi rhoi awydd i fi anelu’n uchel ar gyfer fy nyfodol. Nid wyf yn gallu eu canmol digon am bopeth maent wedi ei wneud i fi. Byddaf yn argymell Gweithffyrdd+ i bobl eraill, yn bendant. Nid wyf yn gallu eu hargymell digon.”
Mae Christie’n hyrwyddo ei busnes ar Facebook, chwiliwch am Boopers dog grooming services.
Mae Gweithffyrdd+ yn helpu pobl ddi-waith i ddod o hyd i waith a chaiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.