Roedd Phil Evans, sy’n llafurwr profiadol, wedi bod yn ddi-waith ers dros 12 mis pan gafodd ei gyflwyno i dîm Gweithffyrdd+ Abertawe.
Mae Gweithffyrdd+ yn ymroddedig i helpu pobl i wella’u bywydau drwy gyflogaeth, hyfforddiant sgiliau, profiad gwaith a gwirfoddoli. Roedd Gweithffyrdd+ wedi neilltuo mentor profiadol, Helen, i Phil ar unwaith i weithio ‘un i un’ gydag ef.
Dechreuodd Helen drwy nodi’r math o waith yr hoffai Phil ei wneud a pha rwystrau i gyflogaeth oedd ganddo. Roedd Phil am barhau â gwaith llafur, ond roedd am weithio yn Abertawe, lle mae’n byw, er mwyn gallu treulio mwy o amser gyda’i deulu. Argymhellodd Helen y byddai Phil yn elwa o hyfforddiant sgiliau ychwanegol. Nodwyd trafod â llaw a gweithio ar uchder fel dau gwrs a fyddai’n berthnasol i’r gwaith yr oedd Phil am ei wneud. Roedd Gweithffyrdd+ wedi cofrestru Phil ar y cyrsiau hyn ac wedi talu amdanynt. Llwyddodd Phil yn y ddau.
Nesaf, roedd Helen wedi diweddaru CV Phil a’i helpu i chwilio am swydd addas. Gan weithio gyda’r gwasanaeth ‘Y Tu Hwnt i Frics a Morter’ yn Abertawe, trefnodd Helen fod CV Phil yn cael ei anfon ymlaen i gwmni Buckingham Group, cwmni adeiladu sydd â phrosiect tymor hir yn Abertawe. Roedd gan gwmni Buckingham Group swydd wag ar gyfer llafurwr/ceidwad y gât. Gwahoddwyd Phil am gyfweliad a llwyddodd i ennill y swydd.
Meddai Phil, “Roedd angen i mi ddod o hyd i rywbeth a oedd yn addas i mi. Gan fy mod wedi gweithio i ffwrdd yn y gorffennol, roeddwn am weithio yn Abertawe er mwyn gallu treulio mwy o amser gyda fy nheulu. Gwrandawodd Gweithffyrdd+ ar hynny ac ni wnaethant geisio fy mherswadio i ymgeisio am swyddi pell i ffwrdd. Ni allaf ddiolch digon iddynt; gwnaethant fy helpu i gael tystysgrifau hyfforddiant newydd ac i ddod o hyd i swydd leol wych. Byddwn yn eu hargymell i unrhyw un sydd am ddychwelyd i gyflogaeth.”
Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.