Roedd Melanie yn daer am ddod o hyd i swydd, ond roedd hi’n credu na fyddai ei hamgylchiadau’n caniatáu iddi wneud hynny. Mae Melanie yn rhiant sengl, mae ganddi dri o blant y mae dau ohonyn nhw’n awtistig. Mae hi hefyd yn dioddef o ffibromyalgia, cyflwr sy’n ei gwneud hi’n anodd iddi sefyll am gyfnodau hir. Does ganddi ddim cymwysterau ac nid yw erioed wedi bod mewn sefyllfa i weithio. Doedd gan Melanie ddim hunanhyder a hyn yn anad dim byd arall oedd yn ei rhwystro rhag cyrraedd ei nod cyflogaeth. Roedd Melanie yn argyhoeddedig na fyddai’n llwyddo ac nid oedd yn gwybod i ble i droi am gefnogaeth. Yna darganfuodd Gweithffyrdd+, y gwasanaeth sy’n ymroddedig i helpu pobl i gael cyflogaeth drwy gefnogaeth mentor a hyfforddiant a ariennir.
Darparodd Gweithffyrdd+ fentor i Melanie o’r enw Angela Law i weithio gyda hi ar sail un i un. Helpodd Angela Melanie i fagu’i hyder ac archwilio opsiynau cyflogaeth posib. Cynigiodd cyfres o gyrsiau hyfforddiant i helpu Melanie i ddatblygu ei sgiliau a llunio CV. Daeth Angela o hyd i gyrsiau hyfforddiant priodol a dalwyd gan Gweithffyrdd+. Cwblhaodd Melanie hyfforddiant Microsoft, hyfforddiant Excel a chwrs cyfryngau cymdeithasol ac aeth i sesiynau cyfrifiadur wythnosol gyda Learn Direct yn Llyfrgell Gorseinon. Yna trefnodd Angela leoliad gwirfoddoli i Melanie gyda Glaze IT, cwmni lleol, i feithrin ei hyder ymhellach.
Y cam nesaf oedd helpu Melanie i gael swydd. Trefnodd Angela i Melanie gael prawf gwaith yn adran recriwtio a gweinyddiaeth y cwmni o Gorseinon, Habitat Homecare. Ar ôl prawf gwaith llwyddiannus, cytunodd Habitat Homecare a Gweithffyrdd+ i ddechrau Cyfle Gwaith â Thâl (PWO). Mae PWO yn galluogi cwmni i gyflogi person y mae Gweithffyrdd+ yn ei gefnogi, ac nid oes rhaid i’r cyflogwr dalu unrhyw gost. Telir cyflog y gweithiwr yn uniongyrchol drwy Gweithffyrdd+. Mae’r PWO yn gyfle 12 wythnos i gadarnhau a yw gweithiwr yn hapus yn y rôl, ac yn diwallu anghenion y cyflogwr.
Cwblhaodd Melanie y PWO gan greu cymaint o argraff ar ei chyflogwyr y gwnaethon nhw gynnig swydd amser llawn iddi.
Meddai Melanie, “Cefais gyfarfodydd rheolaidd â fy mentor Gweithffyrdd+, Angela, a siaradon ni am fy sefyllfa gyda fy mab, fy niffyg profiad a hyder, ac er mawr syndod i fi, roedd hi wedi gallu rhoi opsiynau i fi nad oeddwn i erioed wedi meddwl y bydden nhw’n bosib. Trefnodd Gweithffyrdd gyfweliad swydd i
mi, gan ddod i’r cyfweliad gyda fi, gan egluro fy sefyllfa i’r cyflogwr mewn ffordd na fyddwn i wedi gallu’i gwneud. Byddwn yn cael galwadau rheolaidd i weld sut oedd pethau’n mynd ac a oedd unrhyw beth yr oedd angen help neu gefnogaeth arna i gyda nhw. Mae fy mhrofiad gwaith wedi newid fy mywyd. Mae pethau wedi newid cryn dipyn i fi ar ôl bod gartref bob dydd, a phrofi ychydig iawn o ryngweithio â phobl eraill. Rwy’n teimlo’n falch fy mod wedi dod mor bell a fy mod bellach yn ennill cyflog i ddarparu ar gyfer fy nheulu. Rwy’n teimlo fy mod i’n fodel rôl cadarnhaol i’m mab”.
Meddai Steve Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr, Habitat Homecare, “Ymunodd Melanie â’r tîm yn Habitat Homecare ar ddiwedd 2019 drwy gynllun Gweithffyrdd+. Ar y pryd roedd y cwmni’n tyfu ac roedd ein llwyth gwaith yn cynyddu, felly’r angen am aelod ychwanegol ar gyfer y tîm. Mae Melanie wedi datblygu a gwella’n gyson yn bersonol ac yn broffesiynol gan sicrhau bod pawb sy’n cysylltu â’r sefydliad yn cael y gwasanaeth gorau a’r profiad ymgeisydd gorau posib.”
Mae Gweithffyrdd+ yn cyflogi tîm o Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth sy’n ymroddedig i gefnogi cyflogwyr, a’u helpu i recriwtio staff addas o’r sylfaen o bobl ddi-waith y mae Gweithffyrdd+ yn eu cefnogi.
Aeth Steve Davies ymlaen i ddweud “Ar gyfer ein sefydliad ni ac eraill, rhoddodd y cyfle gwaith hwn â thâl y cyfle i ni ddewis yr unigolyn iawn yn y lle cyntaf. Ni fyddwn yn oedi cyn argymell cynllun Gweithffyrdd+ i fusnesau eraill – mae’r gefnogaeth mae’n ei chynnig o’r cam dewis ymgeiswyr i’r cyflwyniadau cychwynnol ac wrth ddatblygu pobl a swyddi yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod pob lleoliad yn llwyddiannus i bawb. Roedd yr wybodaeth am yr ymgeiswyr a gynigiwyd, yn ogystal â’r trosolygon personol a phroffesiynol, wedi’n galluogi i wneud penderfyniad mwy cytbwys ynghylch pa berson oedd yn iawn ar gyfer y sefydliad a bod y sefydliad yn addas i’r person hwnnw”.
Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Mae Gweithffyrdd+ ar gael yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion.