Mae dechrau busnes yn ymwneud ag amseru a chyfleoedd. Gellir ystyried dechrau busnes ar ddechrau cyfnod o gyfyngiadau cenedlaethol yn benderfyniad annoeth. Fodd bynnag, nododd Dean Waters, preswylydd yng Nglyn-nedd, fod yr angen am ei syniad busnes yn ei ardal leol yn bwysicach nag erioed.
Ag yntau’n gyn ben-cogydd sydd wedi dychwelyd o’r Cotswolds i Lyn-nedd ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, sylwodd Dean fod dewisiadau cyfyngedig o ran prynu bwyd ffres yn gyfleus. Roedd y mwyafrif o deithiau siopa’n cynnwys teithio i Gastell-nedd neu ymhellach, sydd yn anodd i rai preswylwyr yn y gymuned. Roedd Dean yn benderfynol o wneud rhywbeth ynghylch hyn. Gan ddefnyddio ei brofiad arlwyo, syniad Dean oedd agor siop fwyd ffres o safon yn lleol. Yna daeth COVID-19. Yn hytrach na rhoi’r gorau i’w gynlluniau ar gyfer y dyfodol, sylweddolodd Dean y byddai angen cyflenwr cynnyrch ffres lleol ar ei gymuned nawr yn fwy nag erioed. Aeth Dean ymlaen â’i gynlluniau ac ar 26 Mawrth 2020 agorodd ei fusnes ‘Fresh and Fine Foods’ yn adeilad Oddfellows yng nghanol Glyn-nedd. Yn cynnig ffrwythau a llysiau ffres, cynnyrch llaeth, wyau, blawd, pasta ac amrywiaeth o fwydydd eraill. Mae’r siop wedi bod yn brysur ac mae Dean yn gobeithio y bydd yn dod yn rhan sefydledig o’r gymuned.
Pan ddychwelodd i Lyn-nedd, cyfeiriodd y Ganolfan Byd Gwaith leol ef i’r gwasanaeth cefnogi cyflogaeth, Gweithffyrdd+ i’w helpu i ddychwelyd i’r gwaith. Rhoddodd Gweithffyrdd+ fentor dynodedig i Dean, sef Neil Sullivan, i weithio gydag ef i’w helpu i ddychwelyd i gyflogaeth. Helpodd Neil ef gyda magu sgiliau ynghyd a phrynu offer. Roedd Neil hefyd wedi helpu Dean i fagu ei hyder unwaith eto. Mae Gweithffyrdd+ bellach yn cynnig gwasanaeth dros y ffôn fel y gall pobl gael cefnogaeth cyflogaeth heb adael eu cartrefi.
Meddai Dean, “Ar ôl dychwelyd i Lyn-nedd, gymerodd sbel i mi addasu am ei fod yn dawel o’i gymharu â lle’r oeddwn i’n arfer byw. Fodd bynnag, mae hon yn gymuned wych ac er fy mod i’n teimlo ychydig yn isel fy ysbryd ar ôl dod yn ôl, rwyf wedi addasu i gyflymdra bywyd yma erbyn hyn. Roedd byw ar fy mhen fy hun, yr angen am incwm a bod yn ddi-waith yn anodd ac roedd Gweithffyrdd+ yn ddylanwad cadarnhaol arna i’n bendant. Maen nhw wedi fy helpu gyda chefnogaeth ymarferol megis dod o hyd i hyfforddiant a thalu am hwnnw a phrynu’r cyfarpar yr oedd ei angen arna i. Maen nhw hefyd yn cynnig
gwasanaeth personol, sy’n beth braf. Maen nhw yno i drafod pethau a bod yn gadarnhaol. Maen nhw wedi bod o help mawr.”
Mae Fresh and Fine Foods yn cynnig gwasanaeth dosbarthu yn dechrau o £1 a gellir archebu dros y ffôn. Gellir gwneud taliadau trwy drosglwyddiadau BACS ac arian parod.
Am ragor o fanylion neu i archebu, ffoniwch 01639 865656 neu ewch i’w dudalen Facebook sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd https://www.facebook.com/FreshandFineFoods/shop
Mae’r holl help y gall Gweithffyrdd+ ei gynnig bellach ar gael dros y ffôn. Ewch i www.workways.wales i ddod o hyd i’ch swyddfa agosaf.
Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.