Sir Benfro

Helpu pobl ddi-waith i wella eu bywydau

Cwrdd â’r Tîm

Amy Brits

Amy Brits

Mentor

Andrea Howard-Lewis

Andrea Howard-Lewis

Mentor

Daniel Martin

Daniel Martin

Gweinyddwr Cymorth

Donna Hempleman

Donna Hempleman

Gweinyddwr Cyfranogwyr

Eleanor Brick

Eleanor Brick

Swyddog Monitro Ansawdd a Pherfformiad

Gill Nunnery

Gill Nunnery

Swyddog Monitro Ansawdd a Pherfformiad

James Cordell

James Cordell

Mentor

Karen Davies

Karen Davies

Rheolwr Prosiect

Kath Brookes

Kath Brookes

Gweinyddwr Cymorth

Kath Griffiths

Kath Griffiths

Gweinyddwr Cyfranogwyr

Louise Wilkinson

Louise Wilkinson

Swyddog Datblygu Gwirfoddoli

Marty Andrews

Marty Andrews

Swyddog Monitro Ansawdd a Pherfformiad

Natalie Morgan

Natalie Morgan

Swyddog Monitro Ansawdd a Pherfformiad

Nicole James

Nicole James

Gweinyddwr Cyfranogwyr

Nirvana Thomas

Nirvana Thomas

Mentor

Penny Barton

Penny Barton

Mentor

Penny Lees

Penny Lees

Swyddog Cyswllt Cyflogwyr

Rebecca Hughes

Rebecca Hughes

Swyddog Cyswllt Cyflogwyr

Rhian Walters

Rhian Walters

Mentor

Robyn Panell

Robyn Panell

Gweinyddwr Cyfranogwyr

Sue Nolan

Sue Nolan

Swyddog Cyswllt Cyflogwyr

Tessa Fudge

Tessa Fudge

Mentor

Thomas Dunn

Thomas Dunn

Mentor

TJ Stables

TJ Stables

Swyddog Cyswllt Cyflogwyr

Yasmin Riggs

Yasmin Riggs

Mentor

Beth allwn ni ei wneud i chi

N

Sut i ddod o hyd i swydd

  • Cefnogaeth 1-1 gan fentor cyflogaeth.
  • Help i hybu'ch hyder.
  • Canolbwyntio ar y math mwyaf addas o swydd.
  • Helpu i ymarfer technegau cyfweld.
  • Help gyda dod o hyd i swydd.
  • Help i gwblhau ceisiadau am swyddi.
N

Mynediad at gyflogwyr

  • Mae gan Gweithffyrdd+ rwydwaith o gyflogwyr sy'n recriwtio drwy ddefnyddio gwasanaeth Gweithffyrdd+.
  • Gall Gweithffyrdd+ roi eich enw ymlaen ar gyfer swyddi gwag.
N

Hyfforddiant a ariennir, ar-lein ac wyneb yn wyneb

  • Popeth o dechnegydd ewinedd i weithredwr wagen fforch godi!
  • Cymwysterau a thystysgrifau gan gynnwys cerdyn CSCS.
  • Wedi'i ariannu'n llawn, does dim angen i'r cyfranogwr dalu ceiniog.
  • Telir am dreuliau teithio.
N

Profiad Gwaith

  • Profiadau gwaith i ddatblygu sgiliau.
  • Gwella'ch CV
  • Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad gwaith
  • Cwrdd â phobl newydd.

 

N

Gwirfoddoli

  • Helpu eraill a helpu'ch hun
  • Datblygu sgiliau
  • Gwneud ffrindiau newydd
  • Creu argraff ar gyflogwyr y dyfodol.

Llwyddiant Sian Andrews, y Datblygydd Gwefannau Anabl

Sian yn gweithio wrth ei chyfrifiadurMae gan Sian Andrews, sy’n ddatblygwr gwefannau a swyddog gweinyddol rhan amser, yn atgofion dda o’r 22ain o Fawrth 2019, oherwydd dyna pryd gaeth gwefan newydd y bu hi’n rhan ganolog o’i datblygiad, ei lansio – www.AccessPembrokeshire.co.uk.

Mae Sian yn angerddol dros wella ymwybyddiaeth o’r materion sy’n ymwneud â hygyrchedd i’r anabl, a chanddi ddiagnosis o awtistiaeth ei hun. A gyda chymorth Gweithffyrdd+, cafodd y gefnogaeth berffaith i’w galluogi hi i wneud hynny.

Yn 2016, cafodd Sian ei chyfeirio at dîm Gweithffyrdd+ Sir Benfro gan Shaw Trust. Penodwyd mentoriaid, Hannah a Nigel, yn arbennig ar ei chyfer hi er mwyn cynnal sesiynau un-i-un, a gwelwyd yn fuan fod gan Sian botensial mawr. Wedi cyfnod o weithio gyda hi i adeiladu ei hyder ac i ddatblygu ei sgiliau gweithio, trefnwyd fod Sian yn ymuno â grŵp gwirfoddol Gweithffyrdd+, grŵp a oedd wrthi’n datblygu gwefannau newydd i ateb anghenion Sir Benfro.

Gyda chefnogaeth barhaus Hannah, Nigel, ac un o weinyddwyr Gweithffyrdd+, Daniel Martin, roedd Sian yn ffynnu o fewn y grŵp gwirfoddol, gan ddatblygu ei sgiliau digidol a chyfrannu llawer yn gymdeithasol hefyd.

Defnyddiwyd brwdfrydedd Sian dros amlygu gwybodaeth am hygyrchedd anabl er mwyn adeiladu gwefan newydd www.AccessPembrokeshire.co.uk. Crëwyd y wefan er mwyn gwella ymwybyddiaeth o’r cyfleusterau sydd ar gael i’r anabl mewn mannau sector breifat a sector gyhoeddus yn Sir Benfro, yn ogystal â’u hygyrchedd.

Gyda chefnogaeth Gweithffyrdd+, mae gwaith Sian i ddatblygu’r wefan wedi ehangu i gynnwys canfod a golygu yn yr adran Newyddion a Digwyddiadau, yn ogystal ag ychwanegu mapiau, botymau, a gwe-ddolenni. Roedd ei chyfraniad mor werthfawr fel ei bod hi bellach yn cael ei chyflogi dri diwrnod yr wythnos i weithio ar y wefan.

Llwyddodd Nigel i sicrhau safle gwirfoddoli i Sian o fewn Cyngor Sir Penfro hefyd, lle mae hi’n gweithio fel gweinyddydd. Roedd Sian yn frwdfrydig iawn wrth dderbyn y cyfle, a datblygwyd ei sgiliau hi ymhellach o wneud. Wedi rhai wythnosau o wirfoddoli, cynigiodd y Cyngor swydd barhaol 16 awr yr wythnos i Sian, . Erbyn hyn, mae Sian yn fwy annibynnol nag y bu hi erioed o’r blaen.
Roedd derbyn cyflogaeth yn rhywbeth a oedd yn golygu llawer i Sian.
Dywedodd, ‘Rwy’n gwneud rhywbeth sy’n rhoi boddhad mawr i mi. Rwy’n mwynhau’r gwaith ac rwy’n mwynhau cymdeithasu yn y gwaith a chwrdd â phobl hefyd. Mae hynny’n rhywbeth yr wyf yn edrych ymlaen ato bob tro y byddaf yn mynd i’r gwaith. Mae pobl Gweithffyrdd+ yn glen iawn, ac maent wedi bod yn wych wrth roi cymorth i mi wneud yr hyn yr wyf yn angerddol amdano. Rwy’n falch iawn o’r gwaith yr wyf yn ei wneud, ac mae fy nheulu’n falch iawn hefyd. Byddwn yn argymell Gweithffyrdd+ i unrhyw un sy’n awyddus i wneud y gorau o’u bywydau.”

Dywedodd Karen Davies, Rheolwr Prosiect Gweithffyrdd+ Sir Benfro, “Bu’n bleser gwylio Sian yn datblygu, ac mae’n wych cael gweld y gwahaniaeth rhwng y Sian sydd yma heddiw â’r Sian a wnaethom gyfarfod y tro cyntaf. Ein bwriad ni yma yn Gweithffyrdd+ yw helpu pobl sy’n segur yn economaidd i wella eu bywydau trwy wirfoddoli, trwy hyfforddi, neu trwy dderbyn profiad gwaith a chyflogaeth. Dylai unrhyw un, waeth beth yw eu rhwystrau, ddod i siarad gyda ni. Os na allwn ni helpu, gallwn eu cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill.”
Mae Gweithffyrdd+ yn helpu pobl i wella eu bywydau trwy wirfoddoli, trwy dderbyn profiad gwaith, hyfforddiant, a chyflogaeth. Caiff Gweithffyrdd+ ei noddi’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch â ni yn Gweithfyrdd+ Sir Benfro

Gweithffyrdd+ Sir Benfro

Uned 5 Canolfan Siopio Riverside
Cei Riverside,
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2LJ

Ffôn: 01432 776662

E-bost: Workwaysplus@pembrokeshire.gov.uk

Ffoniwch am sgwrs anffurfiol i weld sut gall Gweithffyrdd+ eich helpu chi