Ceredigion
Helpu pobl ddi-waith i wella eu bywydau
Cwrdd â’r Tîm
Sasha Mansworth
Cydlynydd Hyfforddiant a Chyhoeddusrwydd
Rhian Owen
Rheolwr Tȋm
Allison Ellis Jones
Mentor
Beti Gordon
Swyddog Cyswllt Cyflogwyr
Alan Griffiths
Mentor
Dwynwen Huws
Mentor
Wendy Fitzpatrick
Mentor
Beth allwn ni ei wneud i chi
Sut i ddod o hyd i swydd
- Cefnogaeth 1-1 gan fentor cyflogaeth.
- Help i hybu'ch hyder.
- Canolbwyntio ar y math mwyaf addas o swydd.
- Helpu i ymarfer technegau cyfweld.
- Help gyda dod o hyd i swydd.
- Help i gwblhau ceisiadau am swyddi.
Mynediad at gyflogwyr
- Mae gan Gweithffyrdd+ rwydwaith o gyflogwyr sy'n recriwtio drwy ddefnyddio gwasanaeth Gweithffyrdd+.
- Gall Gweithffyrdd+ roi eich enw ymlaen ar gyfer swyddi gwag.
Hyfforddiant a ariennir, ar-lein ac wyneb yn wyneb
- Popeth o dechnegydd ewinedd i weithredwr wagen fforch godi!
- Cymwysterau a thystysgrifau gan gynnwys cerdyn CSCS.
- Wedi'i ariannu'n llawn, does dim angen i'r cyfranogwr dalu ceiniog.
- Telir am dreuliau teithio.
Profiad Gwaith
- Profiadau gwaith i ddatblygu sgiliau.
- Gwella'ch CV
- Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi profiad gwaith
- Cwrdd â phobl newydd.
Gwirfoddoli
- Helpu eraill a helpu'ch hun
- Datblygu sgiliau
- Gwneud ffrindiau newydd
- Creu argraff ar gyflogwyr y dyfodol.
Pennod newydd yn stori Danielle
Yn gynharach eleni, roedd Gweithffyrdd+ yn falch o gynnwys Danielle mewn erthygl olygyddol a oedd yn disgrifio sut yr oedd hi wedi brwydro sciatica ac iselder er mwyn dechrau hyfforddi ar gyfer bywyd newydd fel technegydd ewinedd acrylig. Roedd hi’n trin gwallt yn wreiddiol, ond nid oedd yn bosibl iddi sefyll am gyfnodau hir oherwydd ei sciatica. Bu’n rhaid i Danielle ddod o hyd i alwedigaeth arall. Er gwaethaf cyfyngiadau covid-19, daeth Gweithffyrdd+ o hyd i gwrs ewinedd acrylig priodol a’i ariannu’n llawn. Cwblhaodd Danielle ei hyfforddiant ac roedd hi’n barod i chwilio am swydd. Erbyn hyn, mae gan Danielle swydd fel Prentis Technegydd Ewinedd gyda Skin Deep yng Ngwesty’r Conrah yn Aberystwyth.
Bu Wendy a Beti, staff Gweithffyrdd+ Ceredigion, yn cefnogi Danielle, ac maent wrth eu bodd.
Dywedodd Danielle, “Mi rydw i lle rydw i diolch i Wendy a Beti, a dydi dweud ‘diolch’ yn unig ddim yn dod yn agos at gyfleu pa mor ddiolchgar ydw i.”
Cysylltwch â ni yn Gweithfyrdd+ Ceredigion
Gweithffyrdd+ Ceredigion
Gerddi Wellington
Aberaeron
Ceredigion
SA46 0BQ
Ffôn: 01545 574193
E-bost: TCC-EST@ceredigion.gov.uk