Help i gael swydd
Gall mynd ati i gael swydd eich rhoi dan bwysau a gall feddwl am lenwi ffurflenni cais a mynd i gyfweliadau ddigalonni’r goreuon. Mae gennym yr ateb perffaith. Bydd ein mentoriaid yn gweithio gyda chi ar sail un i un i fagu hyder, chwilio am swyddi, datblygu’ch CV, dod o hyd i hyfforddiant a’i ariannu, eich paratoi ar gyfer cyfweliadau a hyd yn oed helpu gyda phrynu dillad a chostau teithio. Rydym wedi meddwl am bopeth ac mae ein mentoriaid yn cynnig cefnogaeth pan fydd yn anodd dod o hyd i swydd. Mae ein tîm o Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth yn gweithio gyda chyflogwyr lleol ac yn aml mae gennym ni swydd nad ydynt yn cael eu hysbysebu yn unrhyw le arall.
Mae Gweithffyrdd+ yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth, wedi'i hariannu'n llawn ac sydd am ddim i'r cyfranogwr.
Help i gael swydd
- Cefnogaeth 1-1 gan fentor cyflogaeth.
- Help i fagu’ch hyder.
- Canolbwyntio ar y math mwyaf addas o swydd.
- Helpu i ymarfer technegau cyfweld.
- Help gyda dod o hyd i swydd.
- Help i gwblhau ceisiadau am swyddi.