Gweithio gyda Chyflogwyr
Os ydych yn fusnes sydd am gyflogi yna mae’n sicr yn werth i chi siarad â’ch swyddfa Gweithffyrdd+ leol.
Gwasanaeth a ariennir yn llawn yw Gweithffyrdd+ a’i nod yw helpu pobl ddi-waith i gael gwaith eto. Mae amrywiaeth o bobl yn ymwneud â’r gwasanaeth ar hyn o bryd, sy’n aros am y busnes iawn i weithio iddo.
Mae Gweithffyrdd+ yn gwybod ei bod hi’n bwysig i bob busnes gyflogi staff sydd â’r agweddau a’r sgiliau cywir. Bydd Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth (SCC) Gweithffyrdd+ yn cwrdd â chi i gael dealltwriaeth ddofn o’r rôl a’r math o berson y mae ei angen i’w llenwi. Yna byddwn yn chwilio drwy ein grŵp o gyfranogwyr i ddod o hyd i’r ymgeiswyr iawn.
Efallai y byddwn yn gallu trefnu i chi ddarparu cyfnod prawf ar gyfer un o’n cyfranogwyr am hyd at 12 wythnos, gyda Gweithffyrdd+ yn talu cyflog y cyfranogwr. Ni fyddai angen i chi dalu unrhyw beth. Y ffordd hon, mae’r cyfranogwr yn cael profiad gwaith ac mae’r cyflogwr yn cael cyfle i werthuso aelod newydd o staff, a hynny heb gost. Mae llawer o gyflogwyr wedi achub ar y cyfle hwn ac wedi bod wrth eu bodd â’r cyfranogwr, ac ar ddiwedd y ‘cyfle gwaith â thâl’ maent yn hapus iawn i’w cyflogi’n amser llawn.
Gweithfyrdd+
yn helpu busnesau a mentrau cymdeithasol i recriwtio staff rhagorol
Cefnogaeth gan Gweithffyrdd+ yn arwain at fam sengl yn cael swydd wych
Gan ei bod wedi gadael y Llynges Frenhinol a chan fod ei phlant yn ddigon hen iddi ddychwelyd i’r gwaith, roedd Sharon yn awyddus i gael swydd. Siaradodd Sharon â’r gwasanaeth cefnogi cyflogaeth, Gweithffyrdd+. Mae Gweithfyrdd+ yn helpu pobl i wella’u bywydau drwy gymorth cyflogaeth, hyfforddiant sgiliau, profiad gwaith a gwirfoddoli.
Ariennir Gweithffyrdd+ yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Rhoddodd Gweithffyrdd+ fentor i Sharon, sef Iain Forbes, i weithio gyda hi ar sail ‘un i un’.
Rhoddodd Gweithffyrdd+ Swyddog Cyswllt Cyflogaeth hefyd i Sharon, sef Lesley Nicolson, i’w helpu i benderfynu beth hoffai ei wneud ac i chwilio am swyddi addas. Nododd Lesley gwmni yn Abertawe, Green Hat Consulting, fel cyflogwr posib. Roedd gan Green Hat swydd wag ar gyfer gweinyddwr. Roedd gan Sharon ddiddordeb ynddi a threfnwyd cyfweliad. Trafododd Lesley y swydd ag Ian James, Cyfarwyddwr Green Hat Consulting a threfnodd y byddai Gweithffyrdd+ yn ariannu ‘cyfle gwaith â thâl’ am 16 o wythnosau. Mae cyfle gwaith â thâl yn wasanaeth sy’n fuddiol i’r gweithiwr a’r cyflogwr. Mae gwasanaeth cyfle gwaith â thâl Gweithfyrdd+ yn talu cyflogau’r darpar weithiwr am 16 o wythnosau, sy’n rhoi amser i’r gweithiwr a’r cyflogwr ddod i nabod ei gilydd a phenderfynu a yw’r cyfle’n addas ar gyfer y ddau ohonynt cyn i’r cyflogwr fuddsoddi unrhyw arian.
Roedd cyfweliad Sharon yn llwyddiant ysgubol a chafodd swydd am 16 o wythnosau trwy cyfle gwaith â thâl Gweithffyrdd+. Roedd Ian James wrth ei fodd â gwaith Sharon, a phan ddaeth y cyfle gwaith â thâl i ben, cynigiodd Green Hat Consulting swydd amser llawn iddi.
Meddai Sharon Evans, “Rwy’n hapus iawn yn fy swydd gyda Green Hat. Mae wedi codi fy hyder eto ac wedi fy helpu’n fawr iawn. Rwy’n mwynhau mynd i’r gwaith ac rwy’n dysgu pethau newydd bob dydd. Rwy’n teimlo bod gen i ddyfodol disglair yma. Ni allaf ganmol Gweithffyrdd+ ddigon am y gefnogaeth y mae wedi ei rhoi i mi. Mae’r gweithwyr yn wych a byddwn yn eu hargymell i unrhyw un sy’n bwriadu dychwelyd i’r gwaith.”
Meddai Ian James, “Mae Sharon yn aelod gwych o’r tîm a bydd ei rôl yn datblygu wrth i’r cwmni ehangu. Dyma ein tro cyntaf yn cyflogi rhywun drwy gyfle gwaith â thâl ac mae’n rhaid i mi ddweud ei fod wedi bod o fudd i ni. Helpodd Gweithffyrdd+ ni i ymchwilio ymgeiswyr a dewis y rhai cywir ar gyfer cyfweliadau, sydd wedi arbed arian ac ymdrech i ni, ac mae’n llawer gwell na dibynnu ar gyfweliadau’n unig. Mae Gweithffyrdd+ yn cynnig gwasanaeth gwych ac mae’r staff yn gweithio’n galed i gefnogi busnesau a chefnogi pobl ddi-waith. Bydden i’n argymell y gwasanaeth i unrhyw fusnes.”