Help i gael swydd

Gall mynd ati i gael swydd eich rhoi dan bwysau a gall feddwl am lenwi ffurflenni cais a mynd i gyfweliadau ddigalonni’r goreuon. Mae gennym yr ateb perffaith. Bydd ein mentoriaid yn gweithio gyda chi ar sail un i un i fagu hyder, chwilio am swyddi, datblygu’ch CV, dod o hyd i hyfforddiant a’i ariannu, eich paratoi ar gyfer cyfweliadau a hyd yn oed helpu gyda phrynu dillad a chostau teithio. Rydym wedi meddwl am bopeth ac mae ein mentoriaid yn cynnig cefnogaeth pan fydd yn anodd dod o hyd i swydd. Mae ein tîm o Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth yn gweithio gyda chyflogwyr lleol ac yn aml mae gennym ni swydd nad ydynt yn cael eu hysbysebu yn unrhyw le arall.

“Mae Gweithffyrdd wedi fy helpu i ennill yr hyder a'r sgiliau y mae eu hangen arnaf i fod yn llwyddiannus yn y gweithle"

– Sam, 23, o Bort Talbot

"Mae Gweithffyrdd+ yn cynnig gwasanaeth gwych, sy'n ymarferol iawn ac sy'n cael ei gyflwyno gan bobl sydd wir yn gofalu amdanoch. Rwy'n dwlu ar fy swydd ac mae'n werth chweil. Rwy'n helpu i oruchwylio, hyfforddi a datblygu pobl sy'n gwneud profiad gwaith yng nghaffi Social Zone. Mae'r profiad rwy'n ei gael yn wych ac mae fy ngyrfa arlwyo'n sicr ar y trywydd cywir, diolch i Gweithffyrdd+. Mae Gweithffyrdd wedi fy helpu i ennill yr hyder a'r sgiliau y mae eu hangen arnaf i fod yn llwyddiannus yn y gweithle"

– Mark Roach, Sir Benfro

"Mae ennill cymhwyster wedi bod yn wych, ac mae wedi fy helpu i deimlo'n fwy hyderus."

Neville, Ceredigion

"Rwyf wedi cael cyfarfodydd rheolaidd â fy mentor Gweithffyrdd+, Angela, ac er mawr syndod i mi, roedd hi wedi gallu cynnig opsiynau i mi nad oeddwn yn meddwl eu bod yn bosib. Trefnodd Gweithffyrdd fy nghyfweliad swydd a daethant i'r cyfweliad gyda fi. Roeddent yn fy ffonio'n rheolaidd i weld sut roeddwn i'n teimlo neu os oedd angen help neu gefnogaeth arnaf i wneud unrhyw beth. Rwy'n teimlo fy mod i’n fodel rôl cadarnhaol ar gyfer fy mab."

Melanie, Abertawe

"Mae Lee wedi bod yn wych. Rhoddodd gefnogaeth ymarferol i fi i ddatblygu fy CV ac i gael cyfeiriad e-bost. Roedd cwrdd â Lee bob wythnos wedi rhoi rhywbeth i fi anelu ato. Ar ôl gweithio gyda Lee am 4 mis, roeddwn wedi anfon llawer o ffurflenni cais, a helpodd Lee fi drwy'r cyfnodau anodd, gan wneud yn siŵr 'mod i'n iawn a 'mod i ddim yn teimlo'n isel, nes yn y pen draw i mi gael cynnig dwy swydd mewn un diwrnod.”

– Natalie Brown, Sir Gâr

“Rwy’n mwynhau gweithio yn y sector gofal yn fawr. Mae'n wahanol iawn i fy ngwaith blaenorol yn y maes adeiladu ond rwy’n gwneud rhywbeth gwahanol sy'n fy modloni'n fawr. Mae Gweithffyrdd+ yn wasanaeth gwych. Maent yn helpu gyda'ch hyder ac mae ganddynt gyngor ymarferol gwych ar sut i gael swydd. Maent yn weithredol ac yn poeni’n fawr am yr hyn y maen nhw'n ei wneud.”

Paul Watts, Castell-nedd Port Talbot

"Rhoddodd Gweithffyrdd+ gyfle i mi brofi i bawb ac i fy hun y gallwn i ennill swydd dda. Am y tro cyntaf, mae gen i arian yn y banc. Ni allaf ddiolch digon i dîm Gweithffyrdd+. Mae'r gefnogaeth ymarferol maent wedi'i rhoi i mi wedi bod yn wych ac mae'r ffaith y gwnaethant ariannu lleoliad mewn cwmni i fi fel y gallwn brofi'r hyn roeddwn i'n gallu ei wneud wedi fy rhoi ar y trywydd cywir."

– Rob Driscoll, Sir Benfro

"Roedd agwedd gymdeithasol y cwrs yn wych ac roedd ennill y cymhwyster yn gamp. Mae bod yn yr awyr agored a helpu'r gymuned yn bethau rwy'n eu mwynhau'n fawr."

– Ed, Ceredigion

"Mae Gweithffyrdd+ wedi fy helpu mewn sawl ffordd. Cefais gymorth i lunio CV a chyda thechnegau cyfweliad, cefais drwydded wagen fforch godi a daethon nhw o hyd i leoliad gwaith i fi a'm helpu i fagu hyder, a'r cyfan o fewn wythnosau. Cefais fy rhoi mewn amgylchedd nad oedd gen i unrhyw brofiad ohono, ond mewn dim o dro, des i'n gymwys. Mae Gweithffyrdd+ yn sefydliad eithriadol sydd wedi cyfrannu'n fawr at sicrhau fy mod bellach yn weithiwr hyderus."

– Nathan Evans, Abertawe

“Mae Gweithffyrdd+ wedi bod yn amhrisiadwy, yn enwedig gydag arian gan y byddai wedi bod yn amhosib i fi ennill cymwysterau hebddo. Os ydych chi'n ystyried dychwelyd i'r gwaith, byddwn yn argymell yn fawr eich bod yn cysylltu â Gweithffyrdd+."

– Stephen Lawson, Sir Gâr

"Mae Gweithffyrdd+ wedi bod yn ardderchog ac maent wedi fy nghefnogi llawer. Mae fy mentor a fy Swyddog Cyswllt Cyflogaeth wedi bod yn wych! Mae cael swydd dda'n golygu llawer i mi, ac mae wedi fy helpu'n ariannol ac wedi rhoi llawer o hyder i mi."

– Scott James, Castell-nedd Port Talbot

"Mae gweithwyr Gweithffyrdd+ yn bobl mor hyfryd ac maent wedi bod yn wych wrth fy helpu i wneud pethau rwy'n teimlo'n gryf amdanynt. Rwy'n falch iawn o'r hyn rwy'n ei wneud, ac mae fy nheulu'n falch hefyd. Byddwn yn argymell Gweithffyrdd+ i unrhyw un sydd am wneud yn fawr o'i fywyd."

Siân Andrews, Sir Benfro

"Oherwydd Wendy a Beti rwyf wedi cyrraedd ble rydw i heddiw, ac nid yw dweud 'diolch' yn cyfleu pa mor ddiolchgar ydw i."

– Danielle Bradford, Ceredigion

“Gan fy mod wedi gweithio i ffwrdd yn y gorffennol, roeddwn am weithio yn Abertawe er mwyn gallu treulio mwy o amser gyda fy nheulu. Gwrandawodd Gweithffyrdd+ ar hynny ac ni wnaethant geisio fy mherswadio i ymgeisio am swyddi pell i ffwrdd. Ni allaf ddiolch digon iddynt; gwnaethant fy helpu i gael tystysgrifau hyfforddiant newydd ac i ddod o hyd i swydd leol wych. Byddwn yn eu hargymell i unrhyw un sydd am ddychwelyd i gyflogaeth."

Phil Evans, Abertawe

"Rwy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais gan Gweithffyrdd+. Maent yn dîm hyfryd o bobl sy'n gweithio'n galed i helpu pobl eraill. Mae'r ffaith fy mod i wedi gallu helpu fy nhad yn meddwl y byd i mi ac mae hyn o ganlyniad i'r hyfforddiant a gefais. Mae Gweithffyrdd wedi rhoi hwb i fy hyder ac wedi fy helpu gyda chefnogaeth ymarferol. Ni allaf ddiolch digon iddynt."

– Alan Sturley, Sir Gâr

"Mae Neil, Charlie a Gweithffyrdd+ wedi bod yn wych. Mae Neil a Charlie yn bobl hyfryd ac maen nhw wir yn gofalu amdanoch. Roeddwn yn teimlo'n isel ac oherwydd cymorth Neil a Charlie, rwyf ar y trywydd cywir ac yn dwlu ar fy swydd. Byddwn yn sicr yn argymell Gweithffyrdd+ i unrhyw un sy'n chwilio am swydd."

Margaret Thomas, Castell-nedd Port Talbot

"Rwy'n gweithio mewn swydd gwerth chweil sy'n bwysig i mi. Mae'r gefnogaeth rwy'n ei derbyn yma'n wych ac mae Gweithffyrdd+ wedi fy helpu gymaint i wneud rhywbeth arbennig. Byddwn yn argymell i unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i swydd gysylltu â Gweithffyrdd+, mae'n syndod gweld faint gallant ei wneud ar eich cyfer."

Steffeni, Sir Benfro

"Cyn cofrestru gyda Gweithffyrdd+, roeddwn yn fam amser llawn i 6 o blant. Roedd gofal plant a chyfrifoldebau gofalu'n ddrud, fel y mae hi gyda theulu mawr. Yn gyntaf, cefais fy nghyflwyno gan Gweithffyrdd+ i fy mentor Rob. Rhoddodd hyder i fi, a'm dechrau ar lwybr fel y gallwn deimlo fy mod yn mynd i rywle, gyda rhywun wrth fy ochr. Mae Gweithffyrdd+ yn wych."

– Melanie

“Getting a job isn’t just about earning a wage. A job builds your confidence and gets you out meeting people. It gives you a sense of achievement and pride. I am so pleased I contacted Workways+. I would recommend them to anyone looking to get on. They have helped me get a job I really enjoy.”

– Jennifer Voisey, Neath Port Talbot

Mae Gweithffyrdd+ yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth, wedi'i hariannu'n llawn ac sydd am ddim i'r cyfranogwr.

Help i gael swydd

  • Cefnogaeth 1-1 gan fentor cyflogaeth.
  • Help i fagu’ch hyder.
  • Canolbwyntio ar y math mwyaf addas o swydd.
  • Helpu i ymarfer technegau cyfweld.
  • Help gyda dod o hyd i swydd.
  • Help i gwblhau ceisiadau am swyddi.

Darganfyddwch fwy trwy gysylltu â'ch swyddfeydd lleol

Castell Nedd Port Talbot

Ceredigion

Sir Benfro

Sir Gâr

Abertawe