Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd

Rydym wedi gwneud ein gorau glas i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i bawb. Lle bo modd, rydym wedi ceisio rhagori ar Reoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018 gan ein bod am i’n gwefan gael ei gweld gan gynifer o bobl â phosib.

Mae Gweithffyrdd+ wedi datblygu’r safle’n unol â Safon A Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1, ond ein nod yw sicrhau sgôr AAA neu uwch ar gyfer y wefan i wneud yn siŵr bod cynifer o bobl â phosib yn ei defnyddio

Ein nod yw sicrhau’r canlynol:

  • Eich bod yn gallu gwahaniaethu’n glir rhwng lliw y testun a’r cefndir

  • Ein bod yn defnyddio iaith syml yn Gymraeg ac yn Saesneg sy’n rhydd o unrhyw jargon ac yn hawdd i’w deall.

  • Bod dewisiadau testun amgen ar gael ar gyfer y cynnwys di-destun sydd ar gael ar y wefan.

  • Bod ein cynnwys yn addasadwy ac wedi’i drefnu’n gywir gyda mapiau gwefan ar gael ar gyfer pob tudalen

  • Mae’r safle hon yn defnyddio Taflenni Arddull Rhaeadru fel y gallwch addasu’r hyn rydych yn ei weld yn ôl eich dewis.

  • Gellir gweld gwybodaeth ar y wefan heb arddulliau.

  • Mae maint y testun yn gymharol, sy’n eich galluogi i addasu maint y testun yn eich porwr.

  • Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llwyr â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch chi o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd:

Ffôn: 01639 684250
E-bost: workways@npt.gov.uk