Swyddi Gwag
Cymerwch gip ar y swyddi gwych hyn.
Os hoffech gael help i ymgeisio am unrhyw swyddi hyn efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth wedi’i ariannu gan gynnwys:
Diweddaru'ch CV
Bydd Gweithffyrdd+ yn rhoi mentor cyflogaeth dynodedig i chi a fydd yn gweithio gyda chi ar sail un i un.
Gellir cysylltu â nhw trwy alwadau ffôn neu rannu apiau.
Bydd y mentor yn eich helpu i ddod â holl elfennau allweddol CV llwyddiannus ynghyd gan gynnwys beth i’w roi ynddo a sut y dylai edrych.
Bydd eich mentor Gweithffyrdd+ yn eich helpu mewn ffordd sy’n ofalgar a heb bwysau.
Cwblhau ffurflenni cais
Bydd eich mentor Gweithffyrdd+ yn helpu i gael yr wybodaeth allweddol ynghyd i sicrhau bod y cwestiynau ar y ffurflen gais yn cael eu hateb yn gywir ac mewn arddull broffesiynol a fydd yn creu argraff ar y cyflogwr.
Magu hyder
Mae llawer o bobl yn mynd yn nerfus mewn cyfweliadau swydd ac mae hynny’n gwbl ddealladwy.
Bydd eich mentor Gweithffyrdd+ yn eich helpu i ganolbwyntio ar eich cryfderau a’ch profiadau, gan sicrhau bod gennych bethau cadarnhaol i’w dweud mewn cyfweliadau.
Mae Gweithffyrdd+ yn aml yn helpu pobl nad ydynt wedi bod mewn gwaith ac nad oes ganddynt gymwysterau. Bydd eich mentor Gweithffyrdd+ yn llunio cynllun gyda chi a fydd, o bosib, yn cynnwys hyfforddiant, profiad gwaith neu wirfoddoli i oresgyn yr heriau hyn.
Nid oes unrhyw un y tu hwnt i gymorth mentor Gweithffyrdd+.
Hyfforddiant a chymwysterau wedi'u hariannu
Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn cymorth hyfforddiant, cymwysterau a thrwyddedau Gweithffyrdd+.
Bydd eich mentor Gweithffyrdd+ yn gweithio gyda chi i’ch helpu i ddod o hyd i swydd yr hoffech chi ei gwneud. Yna, bydd y mentor yn dod o hyd i ddarparwr hyfforddiant i sicrhau eich bod yn cael yr hyfforddiant sydd ei angen i gyflawni’r swydd.
Bydd Gweithffyrdd+ yn talu am y costau hyfforddi, cost y drwydded a’r cymwysterau.
Mae’r cyrsiau hyfforddi sy’n gymwys yn amrywiol ac yn cynnwys: gweithredwyr wagen fforch, technegydd ewinedd acrylig, cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu, sgiliau swyddfa a golchi â ffrwd.
Hyd yn oed os ydych chi am wneud rhywbeth anarferol, yn y mwyafrif o geisiadau gall Gweithffyrdd+ ddarparu’r cyllid. Mae cymhwysedd yn berthnasol.
Dillad a PPE wedi'u hariannu
Gall edrych yn drwsiadus wneud i chi deimlo’n hyderus a chreu argraff ar gyflogwyr.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i brynu dillad ar gyfer cyfweliad, esgidiau diogelwch, siacedi llachar etc.
Bydd eich mentor Gweithffyrdd+ yn eich helpu i gael gafael ar y cyllid hwn. Mae cymhwysedd yn berthnasol.
Cwrs Magu Hyder
Mentor Gweithffyrdd+, Mark Williams, yn helpu cyfranogwr i ddatblygu ei CV.
Mae gweithiwr y mis, Steve Crouch, yn dwlu ar ei swydd newydd.
Roedd Steve Crouch, gŵr 44 oed sy’n byw yn Abertawe, ac a fu’n ddi-waith ers 10 mlynedd, yn meddwl na fyddai byth yn cael swydd. Roedd Steve yn dioddef o boen ac anystwythder difrifol oherwydd niwed niwrolegol. Roedd y cyflwr hwn wedi atal Steve rhag gweithio. Gyda chymorth gweithwyr iechyd proffesiynol, gwnaeth Steve gynnydd o ran rheoli ei broblemau â’i gefn. Roedd e’n ysu i ddychwelyd i waith adeiladu a gwnaeth y cam cyntaf cadarnhaol drwy gysylltu â swyddfa Gweithffyrdd Abertawe.
Mae Gweithffyrdd+ yn helpu pobl sy’n ddi-waith i gael swyddi. Mae gwasanaethau Gweithffyrdd+ yn cynnwys datblygu CVau, cyfweliadau ffug, help gyda cheisiadau am swyddi, chwilio am swyddi a mentora un i un. Mae gan Gweithffyrdd+ hefyd rwydwaith cynhwysfawr o weithwyr y maen nhw’n gweithio gyda nhw. Gall Gweithffyrdd+ baru’r bobl maen nhw’n eu cefnogi â’r cyflogwyr yn eu rhwydwaith. Mae Gweithffyrdd+ yn cynnig hyfforddiant hefyd. Mewn llawer o achosion, gallant ariannu cost y cyrsiau hyfforddiant, tystysgrifau a thrwyddedau.
Cafodd Tracy Bowen, mentor dynodedig Gweithffyrdd+, ei neilltuo i weithio gyda James ar sail un i un. Gweithiodd Tracy gyda Steve fel y gallai gael rôl yn ôl yn y diwydiant adeiladu. Y cam cyntaf oedd i Gweithffyrdd+ ariannu cost prawf diogelwch safle’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) a fyddai’n galluogi iddo weithio ar safle adeiladu. Sicrhawyd yr arian ar gyfer y cwrs a helpodd Tracy Steve i baratoi am y prawf. Er llawenydd i bawb, pasiodd Steve y tro cyntaf.
Ail ran y cynllun oedd trefnu hyfforddiant i Steve. Daeth Tracy o hyd i gwrs hyfforddiant gloywi ”Lori Ddadlwytho Blaen-arllwys’. Roedd Steve yn awyddus iawn a thalodd Gweithffyrdd+ am y cwrs a’r drwydded. I wneud y cwrs, byddai angen esgidiau diogelwch, het galed a dillad llachar ar Steve. Roedd Gweithffyrdd+ wedi archebu’r rhain a thalu amdanyn nhw. Unwaith eto roedd Steve yn llwyddiannus.
Trydydd cam y cynllun oedd cael swydd i Steve yn y maes adeiladu. Drwy eu tîm o Swyddogion Cyswllt Cyflogaeth, chwilion nhw am gwmni adeiladu yn eu rhwydwaith, a thrwy weithio mewn partneriaeth â’r sefydliad Y Tu Hwnt i Frics a Morter yn Abertawe, daethpwyd o hyd i swydd wag gydag un o’r contractwyr a oedd yn gweithio ar safle datblygiad Arena newydd Abertawe. Pan ddaeth y swydd dros dro hon i ben, roedd Buckingham Group, y prif gontractwr ar gyfer Arena Abertawe, wedi cysylltu â Steve gan fod ei waith wedi creu argraff arnyn nhw. Mae Gweithffyrdd+ yn gweithio’n agos gyda Buckingham Group ac mae wedi gosod sawl gweithiwr yno.